Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 15
Chwefror 2018
Amser:
09.36 -
12.46
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4533
Yn bresennol
Categori
|
Enwau
|
Aelodau’r
Cynulliad:
|
Lynne Neagle AC
(Cadeirydd)
Michelle Brown
AC
Hefin David
AC
John Griffiths
AC
Llyr Gruffydd
AC
Darren Millar
AC
Julie Morgan
AC
Mark Reckless
AC
|
Tystion:
|
Kirsty Williams
AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Vaughan Gething
AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol
Dr Dave
Williams, Llywodraeth Cymru
Lowri Reed,
Llywodraeth Cymru
Albert Heaney,
Llywodraeth Cymru
Joanna Jordan,
Llywodraeth Cymru
|
Staff y
Pwyllgor:
|
Llinos Madeley
(Clerc)
Sarah Bartlett
(Dirprwy Glerc)
Michael Dauncey
(Ymchwilydd)
Sian Thomas
(Ymchwilydd)
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
</AI1>
<AI2>
2
Ymchwiliad i
Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn
dystiolaeth 21
2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru.
2.2 Cytunodd
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ddarparu gwybodaeth
ysgrifenedig ychwanegol am y materion a ganlyn:
- unrhyw
wybodaeth sydd ar gael am y cydberthynas rhwng lefelau amddifadedd
a materion iechyd meddwl fel hunan-niwed ac anhwylderau bwyta;
ac
- enghreifftiau
lle mae sefydliadau arbenigol wedi gweithio gydag ysgolion, gan
gynnwys ysgolion arloesi, i lywio'r gwaith o ddarparu cymorth o ran
llesiant mewn ysgolion a helpu i ddatblygu'r meysydd dysgu a
phrofiad perthnasol yn y cwricwlwm newydd.
2.3 Cytunodd
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig am y materion a ganlyn:
- mynediad at
wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol i bobl ifanc, gan ofyn yn
benodol a yw'r holl Fyrddau Iechyd Lleol yn cydymffurfio â'r
Mesur Iechyd Meddwl, a'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Uned
Gyflenwi GIG Cymru yn y maes hwn ar hyn o bryd;
- gwybodaeth am
oedran y plentyn ieuengaf a dderbyniwyd i ysbyty oherwydd afiechyd
meddwl ar ward oedolion mewn argyfwng/tu allan i oriau;
a'r
- wybodaeth
ddiweddaraf am adnoddau yn uned cleifion mewnol Uned Glasoed
Gogledd Cymru, Abergele.
2.4 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu llythyr yn nodi'r cwestiynau nad oedd amser
i'w gofyn yn ystod y sesiwn.
</AI2>
<AI3>
3
Papurau i'w
nodi
3.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
</AI3>
<AI4>
3.1
Gwybodaeth
ychwanegol gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn dilyn y cyfarfod ar 18
Ionawr
</AI4>
<AI5>
3.2
Llythyr at y
Cadeirydd oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol
</AI5>
<AI6>
4
Cynnig o dan Reol
Sefydlog 17.42(xi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod ac ar gyfer eitem 1 yng nghyfarfod 28
Chwefror.
4.1 Derbyniwyd y
cynnig.
</AI6>
<AI7>
5
Ymchwiliad i
Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - trafod y
dystiolaeth a ddaeth i law
5.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn
ystod y cyfarfod.
</AI7>
<AI8>
6
Ymchwiliad i
Dechrau'n Deg: allgymorth - Trafod yr adroddiad drafft
6.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft. Derbyniwyd yr adroddiad, yn amodol ar
fân newidiadau.
</AI8>
<AI9>
7
Trafod
blaenraglen waith y Pwyllgor
7.1 Nododd y
Pwyllgor y papur a chytunodd cynnal sesiwn fwy manwl ar ôl
toriad y Pasg.
</AI9>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>